Through the academic-led route, you can identify your own non-academic stakeholder (NAS) partner and shape your own project.
If you’re an academic looking for a partner, we’ve also been approached by industry partners with ideas for potential projects. Browse the opportunities below, including details of the proposed projects and contact information.
Shared Challenge Question: Creative Scotland, Arts Council Northern Ireland and Arts Council Wales:
We recently met with representatives from Arts Council Wales, Arts Council Northern Ireland, Creative Scotland and BRAID fellow Oonagh Murphy to discuss the current challenges responsible AI presents to the devolved nations.
Below we share a joint invitation to engage from Creative Scotland, Arts Council Northern Ireland and Arts Council Wales. All three organisations are grappling, individually and together, with what responsible AI adoption and governance means for the arts and cultural sector across the UK’s devolved nations, and are setting out some insights into what is currently shaping our thinking.
If any of this speaks to your own research interests, we’d encourage you to get in touch to explore the potential to develop a BRAID Fellowship proposal. With the application deadline of 5 November fast approaching, we ask that you do reach out if you’d like to engage with us by 9 October at the latest
Contact: joanna.wright@arts.wales
BRAID: Shared Challenge Question- Creative Scotland, Arts Council Northern Ireland and Arts Council Wales:
How are the devolved national arts funding and development bodies in Scotland, Wales and Northern Ireland navigating the adoption, governance and implications of AI within their own organisational systems and for the sector they serve? What can be learned from both shared approaches and devolved contexts to support responsible, inclusive and ethical AI use across the wider arts and cultural sector?
Arts Council Wales’ work is led by 6 principles , closely informed by the Well-being of Future Generations Act and Welsh Government’s Cultural Contract. The six principles are: Creativity; Widening Engagement; Welsh Language; Climate Justice; Nurturing Talent; and Transformation. Although each principle is described uniquely, there is intersectionality between them, and each will be impacted by use of AI.
Potential Questions and themes:
- AI & devolved context (structural, political, cultural). Impacts of differing governing and policy frameworks (Eg. Wellbeing of Future Generations Act Wales 2015). How do these operate alongside UK Policy?
- Co-Design principles- to what extent are organisational AI policies informed in dialogue with the arts and cultural sector?
- Cultural Impacts, risks & benefits: Eg. Epistemic diversity, AI displacement, Localised Models, Accessibility. Balancing opportunity of AI with Fair Work principles.
- AI & Small Nation/ Territory contexts (potential for learning for and from international partners here) incl. AI and minoritised language contexts.
The Arts Council of Northern Ireland is the lead funding and development agency for the Arts in Northern Ireland and its mission is to develop and champion the arts in NI through investment and advocacy. Our 10 year strategy has 6 outcomes through which we envisage a society where all people can experience and thriving arts sector that is recognised as essential to creativity, well-being and social and economic prosperity. AI is recognised to create both opportunities and risks to the ability to these sectors.
At a high level ACNI’s priorities to understand are:
- Organisational AI capacities: Leadership, culture, skills, sensemaking
- How as a smaller Arts Council we: interpret, adopt and govern AI
Potential questions:
- How do arts organisations capacities shape how UK devolved Arts Councils interpret, adopt and govern AI
- How is AI shaping the working definition of arts/arts, authorship, and creative labour?
- Who gets to choose what creative use of AI is acceptable?
- Does devolved policy actually matter for responsible AI use?
- What pace of AI adoption is responsible for creative businesses?
Creative Scotland is the national public body and development organization that supports the arts, screen, and creative industries across Scotland. The organisation’s thinking is initially structured by its strategic priorities around EDI, Fair Work & Environmental Sustainability
“Developing our own policy in this area is a clear opportunity to advocate for the arts and creativity by learning more about the issues and being clear in our stance around AI and how it impacts the creative and cultural sector of Scotland. In our desires to promote fair pay, conditions, and employment opportunities, it would be remiss of us not to ensure we understand the very real concerns from the sector around the impact AI developments are having on employment and the value of creativity in labour.
There are very real climate impacts from the increased energy consumption AI tools typically use, which must be a consideration in our relationship and approach to it….”
They have identified these areas for internal development:
- How they might use AI in their own work
- What principles should be applied when assessing projects using AI within creative practice or in business systems and processes
- How to assess applications generated with AI, recognising its use as an enabling tool with potential to support accessibility
- Should they take a position on the potential impacts of AI on individual creativity and on society more broadly.
Cwestiwn Her ar y Cyd – Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a Chyngor Celfyddydau Cymru:
Mae gan Bridging Responsible AI Divides (BRAID) nifer o gyfleoedd ar agor ar hyn o bryd sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo ymchwil ac arferion ym maes Deallusrwydd Artiffisial (AI) cyfrifol. Yn ddiweddar, rydym wedi cyfarfod â’r tîm a chymrawd BRAID, Oonagh Murphy, i drafod yr heriau cyfredol y mae AI cyfrifol yn eu cyflwyno i’r cenhedloedd datganoledig.
O ganlyniad i’r trafodaethau hyn, rydym yn gwahodd ymchwilwyr o’r celfyddydau a’r dyniaethau i gysylltu â ni os hoffech weithio gyda ni i fynd i’r afael â rhai o’r heriau hyn.
Isod, rydym wedi rhannu gwahoddiad ar y cyd i ymgysylltu, gan Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a Chyngor Celfyddydau Cymru. Rydym oll yn ystyried, yn unigol ac ar y cyd, beth mae mabwysiadu a llywodraethu AI cyfrifol yn ei olygu i’r sector celfyddydau a diwylliant ar draws gwledydd datganoledig y DU, ac rydym yn amlinellu rhai o’r syniadau sy’n llywio ein meddylfryd ar hyn o bryd.
Os yw unrhyw beth o hyn yn berthnasol i’ch diddordebau ymchwil eich hun, byddem yn eich annog i gysylltu â ni i archwilio’r potensial i ddatblygu cynnig Cymrodoriaeth BRAID. Gyda’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, sef 5 Tachwedd, yn agosáu’n gyflym, gofynnwn i chi gysylltu â ni erbyn 9 Hydref fan bellaf os hoffech ymgysylltu â ni.
Cysylltwch â: joanna.wright@arts.wales
BRAID: Cwestiwn Her ar y Cyd – Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a Chyngor Celfyddydau Cymru:
Sut mae cyrff cenedlaethol datganoledig cyllido a datblygu celfyddydau yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn llywio’r broses o fabwysiadu, llywodraethu a goblygiadau AI o fewn eu systemau sefydliadol eu hunain ac ar gyfer y sector y maent yn ei wasanaethu? Beth ellir ei ddysgu o ddulliau a rennir a chyd-destunau datganoledig i gefnogi defnydd cyfrifol, cynhwysol a moesegol o AI ar draws y sector celfyddydau a diwylliannol ehangach?
CCC:
Caiff gwaith Cyngor Celfyddydau Cymru ei arwain gan 6 egwyddor , wedi’u llywio’n agos gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Chytundeb Diwylliannol Llywodraeth Cymru. Y chwe egwyddor yw: Creadigrwydd; Ehangu Ymgysylltiad; Yr Iaith Gymraeg; Cyfiawnder Hinsawdd; Meithrin Talent; a Thrawsnewid. Er bod pob egwyddor wedi’i disgrifio’n unigryw, mae croestoriad rhyngddynt, a bydd pob un yn cael ei effeithio gan ddefnydd AI.
Cwestiynau a themâu posibl:
- AI a’r cyd-destun datganoledig (strwythurol, gwleidyddol, diwylliannol). Effaith fframweithiau llywodraethu a pholisi gwahanol (e.e. Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 2015). Sut maent yn gweithredu ochr yn ochr â pholisi’r DU?
- Egwyddorion cyd-ddylunio – i ba raddau y llywir polisïau sefydliadol ar AI gan ddeialog â’r sector celfyddydau a diwylliant?
- Effeithiau, risgiau a buddion diwylliannol: e.e. amrywiaeth epistemig, dadleoli AI, Modelau wedi’u Lleoleiddio, Hygyrchedd. Cydbwyso cyfleoedd AI ag egwyddorion Gwaith Teg.
- Cyd-destunau AI a gwledydd neu diriogaethau bach (potensial i ddysgu ar gyfer partneriaid rhyngwladol ac oddi wrthynt yn hyn o beth), gan gynnwys cyd-destunau AI ac ieithoedd sydd wedi’u hymyleiddio.
ACNI:
Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon (ACNI) yw’r prif asiantaeth ariannu a datblygu ar gyfer y celfyddydau yng Ngogledd Iwerddon, a’i genhadaeth yw datblygu a hyrwyddo’r celfyddydau yn y rhanbarth drwy fuddsoddi ac eiriolaeth. Mae gan ein strategaeth 10 mlynedd chwe chanlyniad; drwyddynt, rydym yn rhagweld cymdeithas lle gall pawb brofi sector celfyddydau ffyniannus sy’n cael ei gydnabod fel elfen hanfodol i greadigrwydd, lles, a ffyniant cymdeithasol ac economaidd. Cydnabyddir bod AI yn creu cyfleoedd a risgiau i’r sectorau hyn.
Ar lefel uchel, dyma’r blaenoriaethau gan ACNI y mae angen eu deall:
- Galluoedd AI sefydliadol: Arweinyddiaeth, diwylliant, sgiliau, dehongli a gwneud synnwyr
- Sut rydym ni, fel Cyngor Celfyddydau llai, yn dehongli, mabwysiadu ac yn llywodraethu AI
Cwestiynau posibl:
- Sut mae galluoedd sefydliadau celfyddydol yn llunio sut mae Cynghorau Celfyddydau datganoledig y DU yn dehongli, mabwysiadu a llywodraethu AI?
- Nid yw’n ymwneud yn benodol â materion heb eu datganoli, ond mae’n cynnig cyfle ymarferol i archwilio galluoedd sefydliadol ac i gynghori ar sut y dylem ni, fel Cyngor Celfyddydau, ymateb.
- Sut mae AI yn llunio’r diffiniad gweithredol o’r celfyddydau, awduraeth a llafur creadigol?
- Cwestiwn eang nad yw’n archwilio galluoedd sefydliadau na materion datganoledig yn uniongyrchol, ond sy’n ystyried mater craidd sy’n dylanwadu ar ddyfodol y sector creadigol er mwyn i ni allu cynllunio.
- Pwy sy’n cael dewis pa ddefnydd creadigol o AI sy’n dderbyniol?
- Mae’r cwestiwn hwn yn gwahodd archwiliad o safbwyntiau unigolion, sefydliadau ac asiantaethau, yn ogystal â’r math o ddefnydd o AI y mae’n debygol y byddwn yn ei weld yn y sector. Mae hefyd yn ystyried safbwyntiau cynulleidfaoedd a’u parodrwydd i dderbyn y defnydd o AI yn y celfyddydau.
- A yw polisi datganoledig wir yn bwysig ar gyfer defnydd cyfrifol o AI?
- Mae hyn yn rhoi’r cenhedloedd datganoledig yn ganolog i’r mater mewn ffordd drawiadol, ac yn annog archwiliad o gyd-destunau polisi tebyg a gwahanol y cenhedloedd hynny, wrth ystyried a yw anghenion y sector o ran llywodraethu AI yn annibynnol ar bolisi cenedlaethol.
- Pa gyflymder o fabwysiadu AI sy’n effeithio ar fusnesau creadigol?
- Mae hyn yn annog dull ystyriol a gofalus o fabwysiadu AI gan ystyried yn anuniongyrchol y galluoedd sefydliadol ar gyfer mabwysiadu, a rhoi pwyslais ar y risgiau sy’n gysylltiedig ag AI yn rhan ganolog o’r ymchwil. Gall canlyniadau hyn lywio polisïau a blaenoriaethau cymorth y Cyngor Celfyddydau.
Creative Scotland
Mae ein meddylfryd yn cael ei lunio i ddechrau gan ein blaenoriaethau strategol o ran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Gwaith Teg a Chynaliadwyedd Amgylcheddol.
Mae datblygu ein polisi ein hunain yn y maes hwn yn gyfle clir i eiriol dros y celfyddydau a chreadigrwydd drwy ddysgu mwy am y materion a bod yn glir ynghylch ein safbwynt ar AI a’r effaith y mae’n ei chael ar sector creadigol a diwylliannol yr Alban. Wrth i ni geisio hyrwyddo cyflogau teg, amodau gwaith a chyfleoedd cyflogaeth, byddai’n esgeulus ohonom pe na baem yn sicrhau ein bod yn deall y pryderon gwirioneddol sydd gan y sector ynghylch yr effaith y mae datblygiadau AI yn ei chael ar gyflogaeth ac ar werth creadigrwydd mewn gwaith corfforol.
Mae effeithiau hinsawdd go iawn o ganlyniad i’r defnydd cynyddol o ynni y mae offer AI fel arfer yn eu defnyddio, ac mae’n rhaid i hyn fod yn ystyriaeth yn ein perthynas a’n dull o ymdrin ag ef….”
Rydym wedi nodi’r meysydd hyn ar gyfer ein datblygiad mewnol:
- Sut y gallem ddefnyddio AI yn ein gwaith ein hunain
- Pa egwyddorion y dylem eu cymhwyso wrth asesu prosiectau sy’n defnyddio AI o fewn ymarfer creadigol neu mewn systemau a phrosesau busnes
- Sut y dylem asesu ceisiadau a gynhyrchir gan ddefnyddio AI, gan gydnabod ei ddefnydd fel offeryn galluogi sydd â’r potensial i gefnogi hygyrchedd
- A ddylem ni gymryd safbwynt ar effeithiau posibl AI ar greadigrwydd unigol ac ar gymdeithas yn ehangach.
Key Information
17 September 2026: Information Session (watch the recording and download the slides)
23 October 2026: Expression of Interest (recommended) (form)
5 November 2026: Applications close at 17:00 GMT (form)
Mid-December 2026: Applicants notified
April 2027: Projects start by
30 June 2028: Projects complete
Quick links
Call Guidance (pdf)
Intention to submit form (online)
Application form (online)
Application form (word)
Letter of support template (partner) (word)
Letter of support template (research organisation) (word)